Rhwyfo Cymru yw’r corff rheoli cenedlaethol ar gyfer rhwyfo yng Nghymru, sy’n cwmpasu pob disgyblaeth gan gynnwys rhwyfo afon, arfordirol a dan do yn ogystal â rhwyfo para. Ein nod ni yw cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn rhwyfo a chyflawni lefelau uwch o lwyddiant. 

Annog cyfranogiad

Un o'n swyddogaethau pwysicaf yw annog y rhai nad ydynt yn rhwyfwyr i roi cynnig ar y gamp. Mae hyn yn cynnwys cefnogi clybiau i estyn allan at aelodau newydd, cynnal mentrau cyfranogiad wedi'u targedu a thynnu sylw at fanteision ein camp.

Chwilio am dalent a’i datblygu  

I’r rhai sydd eisiau mynd â rhwyfo y tu hwnt i hobi, rydyn ni yma i chwilio am, cefnogi a datblygu’r dalent orau i gynrychioli Cymru a Phrydain Fawr mewn cystadlaethau rhyngwladol gan gynnwys y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Digwyddiadau rhwyfo

Rydym yn cynnal calendr llawn o ddigwyddiadau dan do ac awyr agored yn ogystal â chydlynu’r calendr cenedlaethol ar gyfer regatas a digwyddiadau clwb ledled Cymru. Yn 2022 rydym yn falch o fod yn cynnal Pencampwriaethau Rhwyfo Sbrint Arfordirol a Thraeth y Byd.

Partneriaethau

Rhan o'n gwaith yw cefnogi clybiau i gynyddu eu hallgymorth a'u haelodaeth. Rydym yn gwneud hyn drwy gysylltu clybiau â phartneriaid addas, cefnogi ceisiadau codi arian a chyfeirio clybiau at gyfleoedd perthnasol.

Ysgolion

Fel rhan o’n nod cyfranogiad, rydym yn gweithio gydag ysgolion i gael mwy o blant a phobl ifanc yn eu harddegau i gymryd rhan mewn rhwyfo, gyda ffocws arbennig ar gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal digwyddiadau rhwyfo i ysgolion.

Polisïau a gweithdrefnau

Fel y corff rheoli cenedlaethol ar gyfer rhwyfo yng Nghymru, ein gwaith ni yw pennu polisïau ar gyfer y gamp, gan ysgwyddo rheolaeth ar ddiogelu, gwrth-gyffuriau a llu o faterion eraill.