Mae ein Rhaglen Cefnogi Athletwyr yn golygu y gallwn gefnogi nifer o rwyfwyr hynod lwyddiannus bob blwyddyn wrth iddynt anelu at gynrychioli Prydain Fawr yn rhyngwladol.

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rhwyfo yn y Regata Ryngwladol Gartref, yn ogystal â'r meini prawf isod, mae croeso i chi wneud cais am gyllid.

Meini prawf cefnogi

Mae gwybodaeth fanwl am ein meini prawf ar gael yma.  

Pecynnau cefnogi

Pecyn Cefnogi Lefel 2   

Mae Pecyn Cefnogi Lefel 2 yn cynnwys: 

  • Gwahoddiad agored i sesiynau hyfforddi ‘Dechrau’ yng Nghaerdydd
  • Yr hawl i ofyn am fynediad i ffisio-sgrinio/triniaeth a chefnogaeth ffordd o fyw yn perfformio
  • Yr hawl i ofyn am fenthyg offer
  • Yr hawl i ofyn am gymorth ariannol i leihau costau cynrychioli Tîm Rhwyfo Prydain Fawr (GBRT).
  • Pecyn cit yn cynnwys het, crys-t, hwdi a photel ddŵr

  

Pecyn Cefnogi Lefel 3  

Mae Pecyn Cefnogi Lefel 3 yn cynnwys: 

  • Defnydd am ddim o’r gampfa a’r gampfa cardio yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
  • Yr hawl i ofyn am wasanaethau cefnogi gan gynnwys ffisiotherapi, maeth, ffordd o fyw yn perfformio, ffisioleg, seicoleg, cryfder a chyflyru, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • Yr hawl i ofyn am gymorth ariannol
  • Yr hawl i ofyn am fenthyg offer
  • Agor cais am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer unrhyw eitemau eraill a allai helpu i gyrraedd GBRT
  • Pecyn cit yn cynnwys popeth sydd yng nghit Lefel 2 ac AIO, legins a thop technolegol

Sylwch bod swm y gefnogaeth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr a'r adnoddau sydd ar gael mewn blwyddyn benodol. 
  

Esiamplau o athletwyr sydd wedi’u cefnogi yn flaenorol: 

  • Beccy Muzerie
  • Tom Barras
  • Angharad Broughton
  • Joshua Bugajski
  • Benjamin Pritchard

Os ydych chi'n meddwl y gallech chi gyrraedd y safon i fod yn athletwr a gefnogir dilynwch y broses yma.