Benjamin Pritchard 

Dywedwch wrthym ni amdanoch eich hun a’ch profiad o rwyfo 

Fy enw i yw Benjamin Pritchard (29) o Abertawe, de Cymru. Rwyf bellach wedi bod yn ymwneud â rhwyfo ers 5 mlynedd ac wedi cynrychioli Rhwyfo Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yn 2020. 

Sut wnaethoch chi ddechrau rhwyfo, beth wnaeth i chi roi cynnig arni? 

Fe ddechreuais i rwyfo fel rhan o fy adferiad yn Stoke Mandeville – i ddechrau fel ffordd o gryfhau fy nghefn a fy nghanol ac yna fel ffordd o gadw’r meddylfryd yn gystadleuol. O hynny wedyn, fe ymunais i â Chlwb Rhwyfo Dinas Abertawe a mentro am y tro cyntaf ar y dŵr. Mae’r gweddill fel maen nhw’n ei ddweud yn hanes! 

Beth ydych chi’n ei fwynhau am rwyfo? 

Rwy’n caru bod allan ym myd natur, hyd yn oed yn y gaeafau Cymreig oer a gwlyb! I mi, mae’n rhoi’r un teimlad â phan o’n i’n seiclo ar hyd llwybrau cefn gwlad. Fe allwch chi fod yn gweithio mor galed ag sy’n bosib ond mae ‘na lonyddwch o’ch cwmpas chi ymhob man.

Rwyf hefyd yn teimlo bod rhwyfo wedi rhoi llawer iawn o nerth i mi, gan fy mod i’n gweld y gadair olwyn yn diflannu wrth i mi fynd i mewn i’r cwch a gwthio i ffwrdd o’r llwyfan glanio. Fe all hyn swnio fel peth rhyfedd i’w ddweud ond mae’n rhoi teimlad o ryddid mawr i mi! 

Sut mae rhwyfo wedi effeithio ar eich bywyd chi?

Mae rhwyfo wedi cael effaith bositif iawn ar fy mywyd i, er yn anodd ar adegau – byddwn i’n argymell yn gryf i unrhyw un sydd eisiau rhoi cynnig ar chwaraeon awyr agored ac sy’n mwynhau dod o hyd i ffiniau newydd, yna rhwyfo ydi’r gamp i chi! 

Unrhyw gyngor i rywun sy’n ystyried dysgu rhwyfo?

Fy nghyngor pennaf i yw rhoi cynnig arni! Dydych chi ddim yn mynd i fod yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd ar ôl un strôc – ond pwy a ŵyr i ble’r ewch chi! Mae’r gymuned rwyfo yn gyfeillgar iawn ac mae’r rhan fwyaf o glybiau yn gynhwysol iawn i bawb felly pam ddim mynd yno a rhoi cynnig arni! 

Angharad Broughton 

Dywedwch wrthym ni amdanoch eich hun a’ch profiad o rwyfo 

Fy enw i yw Angharad Broughton ac ar hyn o bryd rwy’n rhwyfo i dîm menywod Prifysgol Washington. Roeddwn i yng Nghanolfan Dechrau Rhwyfo Cymru am dair blynedd ac yn ystod fy nghyfnod yno fe wnes i gystadlu dros Gymru ddwywaith yn HIR yn 2017 a 2018. Yn 2019 fe es i Bencampwriaethau Ifanc y Byd yn Japan yn y pedwarawdau ac fe gefais i fy newis ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd dan-23 2021. 

Sut wnaethoch chi ddechrau rhwyfo, beth wnaeth i chi roi cynnig arni?

Fe ddechreuais i rwyfo yn 2016 pan es i gystadleuaeth rwyfo dan do gyda fy ysgol, a daeth Rhwyfo Cymru ata’ i gan feddwl bod gen i botensial. Doeddwn i heb wir feddwl am rwyfo fel opsiwn oherwydd roeddwn i’n brysur gyda phêl rwyd, ond roeddwn i eisiau rhoi cynnig arni. Roedd fy ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a Rhwyfo Cymru yn allweddol iawn yn fy ymroddiad i i’r gamp a fy llwyddiant. 

Beth ydych chi’n ei fwynhau am rwyfo?

Un o fy hoff bethau i am rwyfo yw’r gymuned sy’n tyfu o fewn unrhyw dîm rydych chi’n rhan ohono oherwydd mae gan bawb yr un nod o fod yn gyflymach ac yn gryfach bob dydd. Rwy’n mwynhau rhwyfo oherwydd mae modd i chi wthio’ch hun bob dydd a dysgu gymaint amdanoch chi’ch hun. 

Sut mae rhwyfo wedi effeithio ar eich bywyd chi? 

Mae rhwyfo wedi rhoi gymaint o gyfleoedd i mi na fyddwn i erioed wedi’u cael hebddo, fel mynd i America i’r brifysgol a theithio. Rydych chi’n cyfarfod cymaint o bobl ledled y wlad drwy rwyfo sydd â chymaint yn gyffredin â chi. Ochr yn ochr â chyfarfod â chymaint o bobl newydd, mae rhwyfo wedi fy ngwneud i’n gymaint cryfach yn feddyliol ac yn gorfforol ac rwy’n teimlo bod hyn oherwydd fy mod i’n ymarfer gyda chymaint o bobl debyg sy’n eich gwthio chi bob dydd. 

Unrhyw gyngor i rywun sy’n ystyried dysgu rhwyfo? 

Fy nghyngor i yw bod rhaid i chi fod yn amyneddgar, os yw hynny o ran peidio troi drosodd yn y sengl neu ddisgwyl i welliannau ddigwydd. Yn y dechrau rydych chi’n gwella mor gyflym ond y darn anodd yw gwthio drwodd pan rydych chi’n teimlo’ch bod chi’n dechrau taro rhyw wal. Un o’r pethau pwysicaf yw mwynhau oherwydd rydych chi’n treulio gymaint o amser yn ei wneud. 

Mary Yee 

Dywedwch wrthym ni amdanoch eich hun a’ch profiad o rwyfo 

Rydw i wedi bod yn rhan o rwyfo ers 30 mlynedd. Fe ddechreuais i’n llywio cyn rhoi cynnig ar rwyfo a rhwyfo mewn pedwar. O Glwb Rhwyfo Dinas Caerdydd, fe symudais i Glwb Rhwyfo Llandaf a pharhau i rwyfo fel rhwyfwr hŷn. Gan mai 5 troedfedd 2 fodfedd ydw i, rwy’n treulio mwy a mwy o amser yn llywio yn hytrach na rhwyfo, a thrwy hynny fe ddechreuais i hyfforddi rhwyfwyr nofis o sedd y llywiwr. Fe arweiniodd hynny ata’ i’n dod yn hyfforddwr llawn amser, gan hyfforddi oedolion sy’n dysgu. Fe wnes i gofrestru ar nifer o gyrsiau hyfforddi o dan ofalaeth Rhwyfo Cymru a Rhwyfo Prydain. Rydw i wedi bod yn hyfforddi ers 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma, fe gefais i fy ethol yn Is-Gapten Nofis, gan fwynhau ac aros yn y rôl am 8 mlynedd cyn dod yn Is-Gapten y Meistri. Fe ymunais i â’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol fel Swyddog Cyfathrebu’r clwb. Gan fy mod i yn y maes Marchnata yn fy swydd o ddydd i ddydd, meddyliais y byddwn i’n cynorthwyo’r clwb gyda chyfathrebu yn fewnol ac yn allanol ac rwy’n helpu i redeg gwefan y clwb. Yn 2017, rhoddais fy hun ymlaen fel Capten y Clwb a dal y swydd am ddwy flynedd. Yn ystod fy nghyfnod gyda Chlwb Rhwyfo Llandaf, ge fafodd fy ngwasanaeth i’r clwb ei gydnabod yn dda a chefais fy ethol fel aelod bywyd. Rwyf bellach yn un o Is-Lywyddion Clwb Rhwyfo Llandaf. Rwyf hefyd yn Ddyfarnwr Cymru ers 23 mlynedd ac yn parhau gyda fy nyletswyddau yn lleol ac yn rhyngwladol. 

Sut wnaethoch chi ddechrau rhwyfo, beth wnaeth i chi roi cynnig arni?

Roeddwn i allan unwaith gyda ffrindiau ac fe gefais i fy nghyflwyno i ddyn o’r enw Creswell Wiggins. Aelod o Glwb Rhwyfo Llandaf ers amser maith, a sefydlodd glwb newydd Clwb Rhwyfo Dinas Caerdydd. Gofynnodd a fyddwn i’n hoffi teithio’r wlad yn gweiddi ar ddynion... roedd hyn yn swnio’n ddiddorol, felly ar ôl cyfnewid rhifau ffôn, roeddwn i’n eistedd yn sedd y llywiwr wythnos yn ddiweddarach. Ychydig fisoedd wedyn, roeddwn i’n llywio criw’r menywod ar gyfer regata hwyl flynyddol Llandaf - 'Pubs and Clubs’ – neu’r 'Splash n Dash' erbyn hyn. Ddeg diwrnod cyn y digwyddiad fe anafodd y ferch ar y dde ei hun a chamu i lawr. Roedd gen i ryw fath o syniad beth i’w wneud, felly cefais fy rhoi yn ei sedd a chael gwersi cyflym iawn ar sut i rwyfo. Yn nigwyddiad y penwythnos, doedden ni ddim yn ddigon ffodus i gael mynd trwodd yn awtomatig ac fe fu’n rhaid rhwyfo pump o weithiau i ennill. Gyrhaeddon ni’r rowndiau terfynol gan wynebu clwb gyda merched bron i ddwywaith fy maint i. Doedd gennym ni fawr o gyfle i ennill, ond roeddwn i’n falch o fynd adref gyda thancard ail safle. Yn fuan wedi hynny, fe ofynnais i fy hyfforddwr fyddwn i’n cael rhwyfo yn lle llywio, a dyna sut dechreuais i rwyfo.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am rwyfo?

Cyfarfod â phobl â diddordeb tebyg, cael hwyl a chadw'n heini. Mae'n braf mynd i ffwrdd i regatas a chwrdd â phobl o'r un anian o glybiau eraill yn y wlad yma a gwledydd eraill sydd â'r un diddordeb. Mae ennill eich statws nofis hefyd yn brofiad na fyddwch chi byth yn ei anghofio. Fe enillais i fy un i yn Regata Caerlŷr 26 mlynedd yn ôl, ac rwy'n dal i gofio pob strôc. Ac ar ôl hyfforddi rhwyfwyr nofis, mae'r wefr gewch chi o weld eich criw yn pasio'r llinell derfyn gyntaf yn y rowndiau terfynol yn amhrisiadwy. 

Sut mae rhwyfo wedi effeithio ar eich bywyd chi?

Rhwyfo ydi fy mywyd i wedi bod am 30 mlynedd. Mae hyfforddi eraill sut i rwyfo wedi rhoi llawer iawn o foddhad i mi. Fel plentyn roeddwn i’n ferch swil iawn, ac mae bod yn rhan o gymuned rwyfo wedi gwella fy nghryfder a fy hyder i dros amser. Doedd cadw’n heini ddim yn dod yn naturiol i mi, ond mae bod yn ffit i rwyfo ar lefel arall – ac mae e werth e. Ar ôl blynyddoedd o hyfforddi a llywio, saith mlynedd yn ôl fe benderfynais i ei bod hi’n amser mynd yn ôl i’r cwch, a dechrau rhodli sengl fel Meistr. Er yn sigledig iawn ac yn ofnus ar adegau, roedd hi’n wefr gallu eistedd a symud y cwch ar eich pen eich hun. Ar ôl dyfalbarhau gyda rhodli sengl, fe gefais fy rhoi wedyn mewn dwbl gyda Rosa, a oedd yr un maint â mi. Ar ôl gweithio’n dda gyda’n gilydd, wedi 5 wythnos fe aethon ni i’r Pencampwriaethau Meistri Prydeinig fel rhwyfwyr nofis, ac er mawr syndod i ni, fe ddaethon ni adref gydag Arian. Erbyn hyn rydw i wedi rhoi’r gorau i gystadlu mewn cystadlaethau ac yn mwynhau rhwyfo er pleser gydag ambell un o’r Meistri eraill yn y clwb. 

Unrhyw gyngor i rywun sy’n ystyried dysgu rhwyfo?

Dim ots beth ydi’ch oedran chi, mae’n gamp nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i byth yn ei gwneud. Mae’r cyfeillgarwch ymysg eich cyd-rwyfwyr yn anhygoel - y wefr o gystadlu neu’r llonyddwch o badlo, mae’n fath o gamp sy’n eich cadw chi’n ffit ac yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol. Rydw i bron yn 60 ac yn teimlo y gallwn i ddal ati am 20 mlynedd arall...