Mae para rwyfo yng Nghymru wedi cael llwyddiant ar bob lefel o’r gamp. Gosododd y rhwyfwr o Gymru, Benjamin Pritchard, Record Byd ym Mhencampwriaethau Dan Do Cymru yn 2018. Enillodd Benjamin ddwy fedal Efydd yn y Regata Para Rwyfo Rhyngwladol yn Gavirate yn 2019 hefyd, a medal arian ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2021.

Rydym yn gallu cefnogi Para Athletwyr yn ein holl sgwadiau. Mae ein tîm hyfforddi yn gymwys ac yn brofiadol iawn mewn hyfforddi Para Athletwyr. Mae posib addasu ein cyfleusterau a'n cychod ar gyfer anghenion Para.

Rydym bob amser yn ceisio galluogi’r rhai ag anabledd i gael mynediad i’n camp, a sut gallwn gefnogi para-rwyfwyr i gymryd y camau tuag at wisgo fest Prydain Fawr. Mae'r fideo yma yn sôn am John Prosser, enillydd medal Invictus a phara rwyfwr.

Ar hyn o bryd mae Benjamin Pritchard, Deiliad Record Byd PR1 o Abertawe, yn hyfforddi ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo, mae ei stori i’w gweld yma.

Sut i gymryd rhan: 

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw bodloni'r gofynion hyn.

Ar gyfer y Dosbarthiadau Para Rwyfo cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ymwneud â Phara Rwyfo, edrychwch ar Wefan Rhwyfo Prydain