Mae rhwyfo dan do yn defnyddio'r un technegau â rhwyfo dŵr ond mae'n defnyddio peiriant a elwir yn ergo yn lle cwch. Fel cychod, gall peiriannau rhwyfo fod â seddi sefydlog neu symudol ac maent yn ddelfrydol ar gyfer ymarfer y corff yn llawn.

Mae rhwyfo dan do yn lle delfrydol i ddechrau os ydych chi’n newydd i rwyfo ac yn poeni am fynd yn syth allan ar y dŵr. Mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol o adeiladu eich ffitrwydd rhwng sesiynau mewn cwch.

Sut i ddechrau rhwyfo dan do

Mae rhwyfo dan do yn syml iawn. Mae gan y rhan fwyaf o gampfeydd beiriannau rhwyfo, a hefyd llawer o glybiau rhwyfo. Gallwch hyd yn oed brynu ergo i'w ddefnyddio gartref.

Bydd unrhyw hyfforddwr neu arweinydd cymwys yn gallu dangos i chi sut i ddefnyddio'r peiriant, sut i osod nodau ffitrwydd a sut i wella'ch techneg i wneud y gorau o'ch ymarfer corff.

Mae hefyd ddigon o sesiynau tiwtorial a fideos ar-lein y gallwch chi eu gwylio i ddysgu'r dechneg gywir.

Canllaw techneg cyflym 

Gweithdy rhwyfo dan do

Achrediad: Wedi'i gymeradwyo gan Skillsactive

Oedran: 18+

Oriau: 4 awr

Cost: £60 yr un (neu 12 am £660)

Mae Rhwyfo Cymru yn cynnal cyrsiau rhwyfo dan do rheolaidd ar gyfer rhwng 6 a 12 hyfforddwr fesul grŵp. Y nod yw galluogi hyfforddwyr i gyflwyno sesiynau rhwyfo dan do mewn campfeydd, ysgolion a chlybiau rhwyfo fel bod cyfranogwyr yn cael ymarfer o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo'r dechneg gywir.

Gweld llyfryn y gweithdy