Disgyblaethau Rhwyfo 

Dim ots beth yw eich cefndir neu eich oedran, na ble yng Nghymru ydych chi, bydd math o rwyfo sy’n ddelfrydol i chi. Er mai rhwyfo afon sydd fwyaf adnabyddus, mae digon o ddewisiadau eraill, a hynny dan do ac yn yr awyr agored i bobl o bob gallu. 

Rhwyfo afon    Rhwyfo arfordirol    Sgwlio arfordirol    Rhwyfo dan do    Para-rwyfo 

Rhowch gynnig arni ac mewn dim fe welwch chi fod rhwyfo’n ffordd hynod effeithiol o ymlacio a chymdeithasu, o ymarfer eich corff cyfan ac o fwynhau byd natur – i gyd ar unwaith! 

Rhwyfo Afon 

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, mae rhwyfo afon yn cael ei wneud ar afonydd a llynnoedd ledled Cymru. Fe allwch chi ddewis rhwng dau fath o gwch – y cychod ‘main’ traddodiadol rydych chi’n eu gweld yn y Gemau Olympaidd, neu’r cychod mwy sefydlog sydd orau gan las rwyfwyr neu rwyfwyr achlysurol. 

Mae cystadlaethau rhwyfo afon yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ond mae teithiau rhwyfo’n dod yn fwy poblogaidd hefyd, gan roi cyfle i chi fwynhau darn o afon fel taith gymdeithasol, heb boeni am fod y cyntaf i’r felin. 

Dechrau arni: 

Mae’r rhan fwyaf o glybiau’n cynnig eu rhaglen dysgu rhwyfo eu hunain, neu’n defnyddio canolfannau chwaraeon dŵr lleol ar gyfer cyrsiau dysgu rhwyfo. 

Dod o hyd i’ch clwb lleol 

Rhwyfo Arfordirol 

Rhwyfo Cychod Hir Celtaidd 

Mae rhwyfo arfordirol yn digwydd ar y môr mewn cychod traddodiadol, hynod sefydlog â seddi disymud o’r enw Cychod Hir Celtaidd, gyda lle i bedwar rhwyfwr ac un cocs. Mae dros 100 o gychod yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae’r gamp yn dod yn fwy a mwy poblogaidd, gyda phwyslais cryf ar gymdeithasu. 

Mae rasys cynghrair Cymru yn cael eu cynnal dros dair i bedair milltir ar y cyfan, ond mae heriau a digwyddiadau cymdeithasol o filltir i 26 milltir drwy gydol y flwyddyn. Yr hiraf o’r rhain yw’r Her Geltaidd, ras dros nos barhaus o fwy na 90 milltir o Arklow yn Iwerddon i Aberystwyth yma yng Nghymru. 

Dechrau arni: 

Mae clybiau rhwyfo môr ar hyd arfordir Cymru. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig sesiynau dysgu rhwyfo i ddechreuwyr. Ewch i wefan Rhwyfo Môr Cymru i ddod o hyd i’r clwb agosaf i chi. Gallwn eich helpu i sefydlu eich digwyddiad neu eich clwb eich hunain hefyd. Mae gennym ni gychod i’w llogi yn benodol at y diben hwn. 

Rhwyfo Môr Cymru  

Sgwlio Arfordirol 

Mae defnyddio cychod seddi symudol yn golygu mai chwaer wyllt rhwyfo afon yw’r ddisgyblaeth rhwyfo môr hon. Mae’r cychod yn gallu dal rhwng un a phedwar rhwyfwr a gellir eu defnyddio mewn un o dair prif ddisgyblaeth, sy’n golygu bod rhywbeth i bawb boed chi ar drywydd gwefr adrenalin neu’n dymuno gweld dolffin neu ddau. 

Dyma dri phrif fformat ras sgwlio arfordirol: 

 Sbrint ar y Traeth 

Mae’r ras gyfun hon yn dechrau ar y traeth, lle mae’r rhwyfwyr yn rhedeg benben at  

eu cychod ar y draethlin.  

Ar ôl cyrraedd eu cychod, rhaid iddyn nhw fynd igam-ogam o gwmpas dau fwi, troi 180 gradd o gwmpas y trydydd dim ond 250m o’r lan a rasio mewn llinell syth yn ôl i’r traeth.  

Ac wedyn mai’n ras droed arall i’r llinell derfyn! 

 Enduro 

Dechreuodd y gystadleuaeth dygnwch hon yn yr 1980au hwyr yn Ffrainc. Roedd yn seiliedig ar reolau hwylio i ddechrau.  

Gall ras Enduro ddechrau a gorffen ar y dŵr neu ar y tir. Mae rhwyfwyr yn mynd o farc i farc ar hyd cwrs rhwng 4km a 6km, dim mwy nag 1.5km o’r lan. 

Teithio  

Mae hyd, pellter ac amser teithiau sgwlio arfordirol yn amrywio.  

Mae criwiau o un i bedwar yn cael eu cefnogi gan gychod eraill yn aml ac mae angen dygnwch, mordwyaeth a sgiliau môr da arnyn nhw i gyrraedd pen y daith. 

  

Dechrau arni: 

Mae sgwlio arfordirol yn ddisgyblaeth newydd ac mae cychod newydd yn cael eu cyflenwi’n rheolaidd. Cysylltwch â ni i gael gwybod lle mae eich clwb rhwyfo môr agosaf sy’n cynnig y ddisgyblaeth hon. 

Cysylltu â ni 

Bydd Pencampwriaeth Rhwyfo Arfordirol y Byd 2022 yn cael ei chynnal yma yng Nghymru fis Hydref yn Saundersfoot, Sir Benfro. 

Rhagor o wybodaeth 

Rhwyfo Dan Do 

Hyd yn oed os ydych chi’n byw’n bell o’r arfordir neu’r afon agosaf, mae rhwyfo dan do yn eich galluogi i fwynhau buddion ffitrwydd rhwyfo. Mae’r cyfarpar ar gael yn y rhan fwyaf o glybiau rhwyfo, campfeydd ac ysgolion, a gall pobl o bob oed, gallu neu lefel ffitrwydd eu defnyddio. 

Mae peiriannau rhwyfo’n defnyddio’r rhan fwyaf o gyhyrau’r corff, gan roi ymarfer trylwyr i chi heb orfod codi unrhyw bwysau. Er ei fod yn weithgaredd gallwch chi ei wneud ar eich pen eich hun, mae’n hwyl hyfforddi fel grŵp hefyd. 

Dechrau arni: 

Mae’n hawdd dechrau rhwyfo dan do. Ymunwch â champfa neu glwb rhwyfo â mynediad at beiriannau rhwyfo, a gwthio’r cwch i’r dŵr fel petai! Bydd hyfforddwr yn gallu dangos i chi sut mae defnyddio’r peiriant, sut i wella eich techneg a sut i gyflawni eich nodau. Neu fe allwch chi daro golwg ar ein canllaw fideo cyflym. 

Canllaw fideo rhwyfo dan do 

Para-rwyfo/Rhwyfo Addasol 

Gall pobl â bob math o anableddau corfforol a dysgu fwynhau pob disgyblaeth rhwyfo, gan gynnwys pobl y bydd angen addasu’r cyfarpar rhwyfo ar eu cyfer o bosib. Ewch i gael sgwrs gyda’ch clwb lleol i drafod eich gofynion unigol ar gyfer cymryd rhan.