Mae gan Rwyfo Cymru raglen berfformio, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, sydd wedi datblygu’n sylweddol dros y pedair blynedd ddiwethaf, gydag enw da clir am adnabod a datblygu rhwyfwyr llwyddiannus sy’n perfformio’n dda. Mae ein rhaglen yma yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac mae ei ffocws ar ddatblygu athletwyr yn y tymor hir. Ein hathroniaeth yw adeiladu pob unigolyn o'r sylfaen i fyny. Mae’r rhaglen hyd yma wedi cynhyrchu rhwyfwyr sydd wedi cynrychioli Prydain Fawr ym mhencampwriaethau’r Byd ac Ewrop ar draws categorïau hŷn, para, o dan 23 ac iau, yn ogystal â Regata Ryngwladol Gartref, Regata Brenhinol Henley, a chynrychiolaeth Merched Henley.

Llwyddiant Diweddar:

  • Sam Bannister – Cynrychioli PF yng Nghwpan y Byd 3 (‘21) - M4
  • Angharad Broughton – Cynrychioli PF ym Mhencampwriaethau Iau y Byd (’19) – W4x
  • Benjamin Pritchard – Paralympiad, Tokyo 2020
  • Beccy Muzerie – Olympiad, Tokyo 2020
  • Joshua Bugajski – Medal Efydd, Tokyo 2020
  • Tom Barras – Medal Arian, Tokyo 2020

 
Mae Canolfan Dechrau Safon Byd Rhwyfo Cymru yn cael ei rheoli gan Emily Doherty a'i chefnogi gan Rwyfo Prydain. Mae’r unigolion ar y rhaglen yn dod o dan gategori naill ai rwyfwr Dechrau o Safon Byd (WCS) neu rwyfwr Cyswllt Rhwyfo Cymru (ACC). Mae unigolion sydd wedi’u hadnabod fel rhai talentog, wedi'u lleoli yn eu clybiau ond yn mynychu sesiynau rheolaidd gyda Rhwyfo Cymru, yn rhwyfwyr Mynediad.

Nid oes angen unrhyw brofiad rhwyfo i gofrestru ar gyfer profion ar gyfer rhaglen WCS. Gellir dod o hyd i'r meini prawf ar gyfer rhaglen adnabod talent WCS yma. Bydd unigolion yn cael eu hystyried fel rhwyfwyr WRA os gallant ddangos tystiolaeth o brofiad perfformiad uchel ar lefel J16-U23 neu os nad ydynt yn bodloni meini prawf WCS ond yn dangos potensial. Mater i'r Prif Hyfforddwr a'r Hyfforddwr Cynorthwyol yw penderfynu gwahodd unigolyn i fod yn rhwyfwr WRA neu'n rhwyfwr Mynediad.

Cysylltwch ag Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am fwy o wybodaeth neu gydag unrhyw gwestiynau. I gael eich profi ar gyfer y rhaglen WCS cofrestrwch trwy glicio yma.